A man who died in a crash in north Powys last weekend has been named by his family as Rhys Jenkins, aged 41, from Glynneath.
Mr Jenkins was travelling along the A483 near Welshpool on Saturday, November 16 with his nine-year-old son, when his vehicle was involved in a collision.
Mr Jenkins died at the scene, and his son remains in hospital recovering from his injuries.
His family have paid tribute to him saying: “Rhys was a devoted husband, father and family man and his loss is absolutely devastating for us all. We are thankful for the support we have received since this truly awful incident and continue to be comforted by the well wishes. As a family we would be grateful to now be afforded the time to grieve.”
Abubakr Ben Yusaf, aged 29, has been charged with drug driving, causing death by dangerous driving, causing serious injury by dangerous driving, causing death whilst uninsured, failing to provide a specimen for analysis, and failing to stop after a road traffic collision.
Umar Ben Yusaf, aged 33, has been charged with causing death by dangerous driving, causing serious injury by dangerous driving, causing death whilst uninsured, and failing to stop after a road traffic collision.
Both have been remanded in custody until the next court hearing on December 20.
Dyfed-Powys Police is continuing to appeal to anyone with information that could help with the investigation.
If you were travelling along the road at the relevant time or have dash cam footage, please report it to the police, either online at: https://bit.ly/DPPContactOnline, by emailing , or by calling 101.
Quote reference DP-20241216-254.
Cymraeg
Mae dyn fu farw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd ar 16 Tachwedd wedi ei enwi gan ei deulu fel Rhys Jenkins 41 oed o Lyn-nedd.
Roedd Mr Jenkins yn teithio ar hyd yr A483 ger y Trallwng gyda'i fab 9 oed pan fu ei gerbyd mewn gwrthdrawiad. Bu farw Mr Jenkins yn y fan a'r lle, ac mae ei fab yn parhau yn yr ysbyty yn gwella o'i anafiadau.
Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo gan ddweud: Roedd Rhys yn ŵr, tad a dyn teulu ffyddlon ac mae ei golled yn gwbl ddinistriol i ni gyd. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom ers y digwyddiad gwirioneddol ofnadwy hwn ac yn parhau i gael ein cysuro gan y dymuniadau da. Byddem fel teulu yn ddiolchgar i gael amser i alaru yn awr.
Mae Abubakr Ben Yusaf, 29 oed, wedi’i gyhuddo o yrru dan ddylanwad cyffuriau, achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, achosi marwolaeth heb yswiriant, methu â darparu sbesimen i’w ddadansoddi, a methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad traffig.
Mae Umar Ben Yusaf, 33 oed, wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, achosi marwolaeth heb yswiriant, a methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad traffig.
Mae’r ddau wedi’u cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad llys nesaf ar Ragfyr 20.
Mae swyddogion yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad, gan gynnwys unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar yr amser perthnasol gyda lluniau camera dashfwrdd, i roi gwybod i ni, naill ai ar-lein yn: https://bit.ly/HDPCysylltuArLein, drwy e-bostio, neu drwy ffonio 101.
Dyfynnwch cyfeirnod DP-20241216-254.